Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pob blwyddyn o'i oes. Ond ei Freuddwyd a'i gwnaeth yn fyd-hysbys. Dyna'r gwaith sydd yn aros yn newydd, yn ieuanc, ac yn iraidd,

"Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy."

Mewn poblogrwydd a dylanwad, nid oes ond Llyfr y Llyfrau wedi cael y fath ledaeniad mewn gwledydd gwareiddiedig. A'r hyn sydd yn rhyfedd ar un olwg ydyw, nad oedd yr awdwr ei hun yn ymwybodol o neillduolrwydd y gwaith. Yr oedd ar ganol ysgrifenu llyfrau ereill, ar bynciau athrawiaethol; ond er mwyn adloni ei feddwl, a thorri ychydig ar undonaeth y carchar, dechreuodd ysgrifennu hanes y Pererin. Ac, er ei syndod, dyna'r meddyliau a'r golygfeydd yn dechreu crowdio o'i gwmpas. Yr oeddynt yn ymryson â'u gilydd am le ar y papur. Prin yr oedd yn medru ysgrifennu yn ddigon cyflym. Onid dyna gyfrinach y Breuddwyd? Yroedd yn gynyrch oriau ysbrydoledig, oriau euraidd. Yr oedd yr awdwr fel un wedi cael ysglyfaeth lawer, ac yn mynd rhagddo wrth ei fodd. Nid gwaith gosodedig ydoedd, ond gweledigaeth nefol yn ymdorri ar ei feddwl, gan ei dywys ymlaen at byrth y ddinas sydd a'i heolydd o aur pur.

Yroedd carchar Bedford, lle y cedwid Bunyan, wedi ei leoli ar ganol y bont oedd yn croesi yr afon Ouse. Benthyciwn ei gerbyd ef ei hun am eiliad, —cerbyd chwim, distaw—olwynol, dychymyg.