cyfryw gais. Anghenrhaid a osodwyd arno i bregethu Efengyl Crist. Dedfrydwyd ef i garchar Bedford. Am beth? Am wrthod ufuddhau i gyfraith ormesol ac anghyfiawn. Gwell oedd ganddo wynebu carchar ac adfyd gyda chydwybod ddirwystr na mwynhau rhyddid ar draul sarnu yr ymddiriedaeth oedd wedi ei gosod ynddo.
Ond nid peth hawdd iddo oedd mynd i garchar, heb un rhagolwg am ryddhad. Nid oedd ond 32 mlwydd oed, a'i galon yn llosgi gan awydd i wneyd gwaith ei Feistr. Pryderai yn nghylch ei deulu. Pwy gymerai eu gofal hwy, ac, yn enwedig, yr eneth fechan ddall? " Ond ni chafodd achos i edifarhau. Bu yr Hwn sydd yn gofalu am aderyn llwyd y tô, a chywion y gigfran pan lefant, yn dyner wrtho ef a'r eiddo drwy gydol blwyddi ei garchariad. Treuliai ran o'i amser i geisio ennill ychydig tuagat gynnal ei dylwyth. Ei orchwyl, meddir, oedd gwneyd pwynteli ar garai esgidiau. Buasem yn mynd ym mhell i weld un ohonynt. Ond yn fwy na'r oll, cafodd hamdden i feddwl,—i edrych i mewn iddo ei hun; a thra yn myfyrio, enynnodd tân. Cynyrch y tân sanctaidd hwnnw, —tân athrylith gysegredig,—ydyw Breuddwyd Bunyan.
Ysgrifennodd lawer yn ystod ei oes. Yr oedd yn awdwr tra chynyrchiol. Y mae rhif ei lyfrau, mawr a bach, yn driugain, un ar gyfer