Y dyddiad arall ydyw Tachwedd 9, 1620. Dyna'r adeg y glaniodd y Mayflower, gyda'r fintai gyntaf o'r "Tadau Pererinol" ar gyffiniau Plymouth Rock, yn y rhandir hwnnw ddaeth i gael ei adnabod fel Lloegr Newydd. Yr oedd y dydd hwn yn ddechreu cyfnod. Cafodd yr ymfudwyr hyny, a'u holynwyr, eu defnyddio gan Ragluniaeth i osod i lawr sylfeini cymdeithas, llywodraeth, a chrefydd yn y Gorllewin. Eu bywyd a'u hegwyddorion hwy oedd haenau isaf cyfansoddiad y Weriniaeth fawr, gyfluniol, sydd bellach yn ymestyn o'r Werydd i'r Tawelfor, ac yn rhifo ei myrddiynau. Yr oedd cryn wahaniaeth rhwng neges Columbus a neges y Mayflower. Anturiaethwr oedd y naill, a'i fryd ar estyn terfynau gwyddor, a therfynau llywodraeth Hispaen yr un pryd; ond pererinion oedd yn y Mayflower, pobl yn ceisio gwlad, nid er mwyn concwest na chlôd, eithr er mwyn rhyddid cydwybod,ac oblegid eu hargyhoeddiadau crefyddol. Hyn yn unig a barodd iddynt wynebu peryglon y cefnfor, a chyrchu i fro bell, estronol, lle nad oedd ganddynt un hawlfraint na dylanwad,— dim ond eu diwydrwydd eu hunain, ac amddiffyn eu Duw. Ond yr oeddynt yn etifeddion ffydd, ac yn olynwyr yn yr addewid,—" Dos allan o'th wlad, ac oddiwrth dy genedl, a thŷ dy dad, i'r wlad a ddangoswyf i ti. A mi a'th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a'th fendithiaf;
Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/109
Gwedd