mawrygaf, hefyd, dy enw, a thi a fyddi yn fendith." Cafodd hyn ei wirio yn eu hanes a'u dyfodol hwythau. Daeth eu bywyd a'u llafur yn allu ac yn fendith yn y Byd Newydd. Rhodder i Columbus yr anrhydedd o'i ddarganfod; ond i'r Tadau Pererinol y perthyn y clôd o osod i lawr sylfeini crefydd a llywodraeth, crefydd rydd, ddilyffethair, llywodraeth ddemocrataidd, a'i hanfod yn ewyllys gyfunol yr holl bobl.
Yn yr olwg ar eu gwaith a'u dylanwad, y mae yn naturiol i ni deimlo dyddordeb yn eu hanes a'u helyntion. Yr hyn a'u dygodd i sylw ydoedd eu golygiadau crefyddol. Yr oeddent yn meddwl yn wahanol ar bynciau Cred i'r hyn oedd yn cael ei orchymyn gan lysoedd eglwysig a gwladol eu hoes. Yr oedd eu barn am eglwys y Testament Newydd yn peri iddynt ymwrthod âg offeiriadaeth ddynol. Credent yn offeiriadaeth gyffredinol yr holl saint; ac mai hanfod eglwys ydyw cynulleidfa o Gristionogion yn 'cyfarfod i ddibenion crefyddol, gan sefyll yn y rhyddid â'r hwn y rhyddhaodd Crist hwy. Lle bynag y mae Ysbryd yr Arglwydd Iesu, yno y mae rhyddid, —rhyddid cydwybod, rhyddid barn. Nid oedd hyn yn cael ei gydnabod na'i ganiatau yn yr Eglwys Wladol,—yr Eglwys oedd wedi ei sefydlu yng ngrym cyfraith, ac yn cael ei hamddiffyn gan ddeddfau o osodiad dyn. Am hyny