Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd y sawl nas gallent gydffurfio â defodau ac â seremoniau yr Eglwys Wladol dan orfod i ymwahanu,—bod yn Anghydffurfwyr. Wrth wneyd felly yr oeddynt yn dyfod dan ŵg yr awdurdodau, a nerth y gyfraith yn cael ei droi yn eu herbyn. Ond yr oedd ysbryd y Diwygiad Protestanaidd yn ymledu, a'r gwirionedd am ryddid yn prysur lefeinio meddyliau. Y mae cymdeithasau crefyddol yn cael eu cychwyn yma a thraw, ac er fod llaw drom y gallu gwladol yn disgyn arnynt yn fynych, eto y maent yn lliosogi, fel cenedl Israel yn amser y gorthrwm, er gwaethaf llid y gelyn. Mewn cymdeithas fechan o'r fath, yr hon a gynhelid mewn pentref ar dueddau dwyreiniol Lloegr, y tarddodd y mudiad a gysylltir â'r Tadau Pererinol. Dyna eu cartref gwreiddiol, er fod amryw wedi ymuno â hwy o barthau ereill o'r deyrnas.

Dichon mai yr olwg gyntaf a gawn ar y Tadau ydyw yn Gainsborough, pentref tawel ar lan y Trent, oddeutu ugain milldir o'r môr. Lle neillduedig, allan o lwybr trafnidiaeth, ond yn gyrchfan adnabyddus i'r Piwritaniaid. Yno, yn yr Henblas, y preswyliai William Hickman, boneddwr a Phrotestant, ac efe a sefydlodd Gymdeithas Ymneillduol yn ei dŷ. Y gweinidog cyntaf ydoedd John Smyth, M.A. Deuai pobl o'r pentrefi cylchynol, ac yn enwedig o Scrooby, i'r cyfarfodydd crefyddol yn yr Hen-