Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blas, er fod ganddynt dros ddeuddeng milldir o ffordd. Yn eu plith yr oedd William Brewster a William Bradford; a chan ystyried pellder y siwrnai Sabbothol, y maent yn meddwl am sefydlu cymdeithas gyffelyb yn Scrooby, lle yr oeddynt ill dau yn trigiannu. Desgrifi ef fel pentref digyffro, yng nghanol doldir ffrwythlon a ffrydiau gloewon. Y mae tair o siroedd yn cyfarfod yn y fangre,—Nottingham, York, a Lincoln. Y mae Scrooby ei hun yn Swydd Nottingham. Yn oes y Tadau yr ydoedd yn lle mwy adnabyddus nag ydyw heddyw. Safai ar y brif-ffordd oedd yn arwain i Berwick ac i Ysgotland. Yr hyn sydd yn meddu dyddordeb i'r hanesydd crefyddol ydyw yr Hen Faenordy. Mewn blynyddau diweddar, y mae llawer wedi dyfod ar bererindod o'r Gorllewin i weld annedd lle bu y Tadau yn y ymgynnull, ac yn cydaddoli cyn gorfod gadael eu gwlad. Yn y Maenordy y preswyliai William Brewster, gŵr ag y mae ei enw yn gysegredig, arweinydd y fintai fechan aethant dros y Werydd yn y Mayflower. Cafodd ei addysgu yn Nghaergrawnt, ac ym more ei oes daeth i gysylltiad â'r Llys. Bu am yspaid yn Holland. Ond nid yn y Llys a'i ysgafnder yr oedd i dreulio ei fywyd. Dewisodd yntau adfyd pobl Dduw yn hytrach na mwyniant ac anrhydedd daearol. Dychwelodd i Scrooby. Cafodd y