Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swydd o "Post" fel olynydd i'w dad. Nid oedd llythyrdy, na son am dano, yn y cyfnod hwn. Ond yr oedd negeseuon y Llys yn cael eu cludo i wahanol ranau y deyrnas. Yr oedd pedair prif-ffordd yn cael eu cadw i'r amcan hwn,—o Lundain i Beaumaris, i Plymouth, i Dover, ac i Berwick. Ar y ffyrdd hyn yr oedd gwestai, lle y cedwid meirch a chysuron ar gyfer y llythyrgludwyr. Gelwid y sawl oedd yn gofalu am y cyfryw yn "Post," ac yr ydoedd yn swydd a gydnabyddid yn lled dda. Un o'r gwŷr hyn ydoedd William Brewster; a dyna ar y pryd oedd y Maenordy, gwesty i genhadau y Goron, &c. Ymddengys fod cryn hanes i'r hen Faenordy. Ar un adeg yr oedd yn balas i Archesgob York. Ynddo y bu Cardinal Wolsey am fisoedd, ynghyd â Bonner, yr erlidiwr dihafal, yn ceisio llethu y Lutheriaid yn y wlad. Ond ym mhen ychydig flynyddau, gwelwyd eglwys Anghydffurfiol wedi ymgynnull yn y lle y bu'r Cardinal yn taranu ei anathema yn erbyn rhyddid barn a llafar. Tybir mai yn yr hyn sydd yn awr yn ystabl y cynhelid y cyfarfodydd. Gweinidogion cyntaf yr eglwys oedd Richard Clyfton a John Robinson. Y mae'r olaf, yn arbenig, yn cael ei gyfrif yn dad a chynghorwr i'r Pererinion. Bu am gyfnod yn offeiriad, ond methodd a chartrefu yn Eglwys Loegr. Bwriodd ei goelbren gyda'r Anghydffurfwyr.