Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond nid oedd y gymdeithas grefyddol yn y Maenordy i gael dianc rhag ysbryd erlidiol yr oes. Cafodd Brewster ei ddirwyo yn drwm am roi nawdd i'r cyfarfodydd, a chafodd amryw o'i aelodau eu bwrw i garchar. Dan yr amgylchiadau, penderfynasant groesi y môr i Holland, lle y gobeithient gael llonyddwch i ddilyn eu hargyhoeddiadau. Yn yr adeg honno, fodd bynnag, nid oedd rhyddid i ymfudo heb drwydded, ac nid oedd y drwydded honno i'w chael i'r bobl hyn; felly yr oedd yn rhaid gwneyd hebddi, rywfodd. Yn Hydref, 1667, rhoddasant eu bryd ar gychwyn yn ddirgelaidd o Boston, hen dref hynod ar fin y môr, yn Swydd Lincoln. Ond, druain, cawsant eu bradychu gan gadben y llong. Cymerodd yr adyn hwn eu harian, a gwerthodd hwy i swyddogion y Llywodraeth yr un pryd. Gyda'u bod ar y bwrdd, dyna yr erlynwyr ar eu gwarthaf, a chawsant eu cymeryd yn ol i'r dref i aros eu prawf. Bu yr ynadon yn dirion wrthynt, ond nis gallent eu rhyddhau heb orchymyn oddiwrth y Cynghor yn Llundain. Buont yng ngharchar am dymor, ond nid oeddent wedi colli golwg ar eu hamcan. Gwnaethant ymdrech i ymfudo drachefn. Wedi cytuno ar lecyn neillduedig, ar lan y môr, cyrhaeddasant yno gyda'u teuluoedd. Ond cyn i'r oll fynd i'r llong oedd yn eu haros, daeth y milwyr ar eu gwarthaf. Cychwynodd y llestr