Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dwy ferch John Penri eu cymeryd drosodd ganddynt i Holland, a thrachefn, o bosibl, i wlad y Gorllewin.

Yn y modd hwn, daeth Amsterdam yn gyrchfan yr erlidiedig o Brydain a manau ereill. Bu y ddinas honno ar ei mantais o'u plegid. Yr oedd y ffoaduriaid yn cynrychioli goreuon cymdeithas; pobl rinweddol, fedrus, a diwyd gyda'u goruchwylion. Bu eu harhosiad yn Amsterdam yn foddion i ddyrchafu y ddinas ac i helaethu ei dylanwad. Wedi aros yno flwyddyn, symudodd y Pererinion i dref arall,—Leyden.

Safai Leyden ar oddeutu hanner cant o ynysoedd bychain wedi eu ffurfio gan yr afon Rhine, oddeutu deng milldir ar hugain o Rotterdam. Yr oedd poblogaeth y lle, yn nechreu yr ail ganrif ar bymtheg, yn gan' mil.

Yr oedd yn ddinas dêg a dymunol. Cysgodid ei heolydd gan goed deiliog, a phontydd heirdd yn croesi yr afon. Yr oedd yr adeiladau cyhoeddus yn fawreddog, a'r holl ddinas yn delweddu darbodaeth, cynildeb, a chysuron. Ei phrif addurn oedd y Brifysgol, yn yr hon yr oedd dros ddwy fil o efrydwyr. Cafodd y Pererinion nodded yn y ddinas hon, ond yr oedd eu hanhawsderau yn lliosog. Gorfu iddynt ddysgu crefftau newyddion, mewn trefn i allu cynnal eu hunain a'u teuluoedd. Ond nid pobl yn llwfrhau yn amser cyfyngder oeddent hwy. Daeth rhai yn seiri