Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meini, ereill yn wehyddion, yn argraffwyr, &c. Ac er fod eu byd yn galed, llwyddasant i ennill eu bara beunyddiol heb ofyn elusen na chardod i neb. Eu gweinidog yn Leyden oedd John Robinson. Ymhen amser llwyddasant i brynu tŷ a gardd yn agos i eglwys gadeiriol y ddinas. Yn y tŷ hwnnw yr oedd y gweinidog yn trigiannu, ac yn un o'r ystafelloedd y cynnelid y gwasanaeth crefyddol. Bu y Pererinion yn Leyden am ddeuddeng mlynedd; ac yn ystod yr holl amser ni pharasant unrhyw ofid na thramgwydd. Ni ddygwyd cwyn yn eu herbyn; a rhoddwyd llawer tystiolaeth i'w rhagoriaeth fel dinasyddion.

Ond nid oedd iddynt yno "ddinas barhaus." Rhyw lety a chysgod dros amser oedd Leyden, ond yr oedd y Pererinion yn chwilio am gartref. Pa le yr oedd hwnnw? Nid yn yr hen wlad, er mor anwyl ydoedd i'w serchiadau. Gorthrwm oedd yn oruchaf yno. Pa le, ynte? Ai yn y Byd Newydd, yn y Gorllewin pell? Ai yno yr oedd eu ffydd i gael lle i roddi ei throed i lawr? Ai yno yr oeddent i weithio allan yr ymddiriedaeth grefyddol oedd wedi ei rhoddi iddynt? Y mae y syniad hwn yn cryfhau yn eu mynwesau. Fel y gwelir yr adar ar ddiwedd haf yn ymdyru at eu gilydd, yn ngrym rhyw ddirgel reddf, felly yr oedd y Pererinion ymfudol hyn. Y maent yn penderfynu gadael Holland, a chroesi y Werydd gyda'u gilydd.