Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yna resymau cymdeithasol dros iddynt adael Leyden. Yr oeddent mewn perygl o ymgolli yn y bywyd oedd o'u hamgylch, bywyd y Cyfandir. Nis gallent ddygymod â hyny. Peth arall, yr oedd sefyllfa wladol Holland yn ansicr. Yr oedd arwyddion rhyfel ar y gorwel, a buasai hyny yn creu chwyldroad yn y deyrnas. Yr oedd y rhesymau hyn yn bod, ond yr oedd llaw anweledig y tu ol i'r llen, yn eu harwain ar hyd ffordd nis gwyddent. Rhaid oedd ymado, er fod y dyfodol yn dywyll ac aneglur. Yr oedd eu bryd ar y Gorllewin. Meddylient am Virginia. Yr oedd trefedigaeth Brydeinig wedi ei chychwyn yno dan awdurdod y Brenin Iago. Ond deallasant fod deddfau caethiwus Lloegr yn ymestyn i Virginia. Nis gallent wladychu yno heb wadu eu hegwyddorion. O'r diwedd, cawsant ganiatad i ymsefydlu ar lan yr afon Hudson. Cwrddasant âg anhawsderau mawrion ynglŷn â chael llong, a rhyw ddarpariaeth ar gyfer y daith. Wedi dyfod i gytundeb â chwmni masnachol yn Llundain, ar delerau eithaf celyd, cawsant addewid am ddwy long i'w cludo drosodd,—y Speedwell a'r Mayflower. Aeth y Speedwell i'w cyrchu o Holland i Southampton. Yr oeddent yn gadael gwlad y camlesydd yn haf y flwyddyn 1620, ac yn gobeithio gallu croesi y cefnfor yn ddiymdroi fel y byddai eu ffoedigaeth cyn y gaeaf. Ond