Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd y merchants yn cellwair gyda'r mater, ac yn oedi arwyddo y cytundeb. Wedi eu cadw mewn pryder am wythnosau, cawsant ar ddeall o'r diwedd fod y llongau yn barod. Rhif y Pererinion oedd ugain a chant. Aeth 90 ar fwrdd y Mayflower, a 30 ar fwrdd y Speedwell, ac felly y cychwynasant. Wedi hwylio am rai dyddiau, gwelwyd fod y Speedwell yn gwbl wahanol i'w henw. Ffrydiai y dwfr drwy ei hystlysau, a gorfu iddynt ddychwelyd i dir. Wedi cyrraedd Plymouth, gwelid yn eglur nas gallai y Speedwell wynebu'r fordaith. Erbyn hyn yr oedd deunaw o'r ymfudwyr wedi digaloni, a gwrthodasant ymuno â'r anturiaeth. Trosglwyddwyd deuddeg i'r Mayflower, yr hon oedd eisoes yn rhy lawn. Aethant allan i'r môr drachefn, a chawsant hindda am enyd. Ond yn bur fuan daeth gwyntoedd yr Hydref i guro arnynt. Ysgytid y llong fel pluen ar frig y dòn. Hyrddid hwy o flaen yr ystorm. Toddai eu calon gan flinder, a'u doethineb a ballodd. Buont am naw wythnos ar y cefnfor garw; ond ar y nawfed o fis Tachwedd y maent yn gweld y tir. Nid y tir y disgwylient am dano, ond y bau mawr a adwaenir fel Cape Cod Bay. Yr oedd eu rhagolygon yn dywyll i'r eithaf. Nid oedd tŷ na chysgod yn eu haros,—dim ond arfordir noeth a llwm. Yr oedd yr hin yn aeafol, ac afiechyd wedi tori allan ar fwrdd y