llong. Ond y maent yn glanio, ac yn syrthio ar eu gliniau ar y traeth i gydnabod Duw y nefoedd am eu gwaredu o beryglon y môr, a'u dwyn yn y diwedd i gilfach a glan. Ni chawn ddilyn eu hanes ymhellach. Caiff yr aralleiriad a ganlyn o gân Mrs. Hemans wasanaethu i ddangos eu sefyllfa, eu gwroldeb, a'r neges odidog oedd i'w hanturiaeth,
Ymdorai'r tonau brigwyn, erch,
Ar fynwes oer y graig;
A sŵn y storom ar y traeth
Adseiniai yn yr aig.
Mor ddu a phruddaidd oedd y nos
Deyrnasai dros y tir,
Pan laniai'r Pererinion llesg
Ar ol eu mordaith hir!
"'R oedd yno rai â'u gwallt yn wyn,
A rhai mewn mebyd mad;
Paham crwydrasant hwy mor bell
O'u genedigol wlad?
"Beth geisient hwy ar estron dir?
Ai perlau teg eu gwawr?
Na, ceisio'r oeddent le i'w ffydd
I roi ei throed i lawr.
"Byth galwer hwn yn sanctaidd dir,
Lle cysegredig yw;
Pwrcaswyd yno ryddid dyn
I wasanaethu Duw."