Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DOETHION GROEG.

I BAWB sydd wedi talu sylw i hanesiaeth, yn enwedig hanesiaeth y cynoesoedd, y mae cyfaredd o swyn yn enw Groeg. Gwlad a fu am ganrifoedd yn frenhines teyrnasoedd, ac yn ganolbwynt gwybodaeth a gwroldeb, cryd aur gwyddoniaeth a chelfyddyd, mamaeth rhyfelwyr, athronwyr, a beirdd; "The land," ys dywed Byron,

"Where burning Sapho loved and sung,
Where grew the arts of war and peace.
Land of lost gods and god-like men."

Groeg yn nyddiau ei gogoniant! Dyna faes bras i ddychymyg ymdroi o'i gylch, pan oedd y