Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

duwiau yn byw ar Olympus, pan oedd yr awenesau yn ymdrochi yn ffynhonau Helicon, pan oedd y temlau mynor yn disgleirio ar bob bryn, a phan oedd Athen yn gyrchfan doethion, yn brif-ysgol gwyddor a chelf, ac yn llygad Groeg.

Onid y gwledydd lleiaf o ran maintioli sydd wedi bod yn fagwrfa i enwogion? Dyna Gymru, gwlad ein tadau, bechan ydyw o ran maint, ac eto mae athrylith wedi ei chysegru â'i phresenoldeb drwy yr oesau. Uniawn y gelwir hi yn "wlad beirdd a cherddorion, rhyfelwyr o fri," gwlad Taliesin a Llywelyn, magwrfa Inigo Jones, a John Gibson, a llu ereill sydd wedi cerfio eu henwau â phin o haiarn yng nghraig anfarwoldeb dros byth.

Drachefn, dyna wlad Canan; nid ydyw hithau ond ysmotyn yn ymyl cyfandiroedd Asia ac Affrica, eto, pa mor gyfoethog mewn enwogion? Uniawn y galwyd hi gan yr ysbiwyr gynt yn "wlad y cewri." Dyna ydyw wedi bod yn ystyr uwchaf y gair; gwlad Dafydd a Solomon, gwlad Esaiah a Daniel, gwlad Paul yr Apostol, ac Ioan y Difeinydd, a gwlad wedi ei chysegru â phresenoldeb Emmanuel mewn cnawd!

Y mae yr un peth yn gymhwysiadol at wlad Groeg. Nid ydyw hithau ond bechan iawn o'i' chymharu â'r gwledydd y bu gynt yn llywodr-