aethu arnynt; ac eto, meithrinodd dô ar ol tô o wroniaid. Y mae yn hynod ar gyfrif ffrwythlondeb ei thir mewn ystyr anianyddol, ac y mae mor hynod am ffrwythlonder ei henwogion. Yn mysg ei beirdd y ceir Homer, Hesiod, Pindar, Sapho, ac Anacreon; yn mysg ei haneswyr y mae Herodotus, a Xenophon; yn mysg ei hathronwyr y mae Socrates, Aristotle, Diogenes, a Plato; ac yn mysg ei rhyfelwyr y mae Alcibiades, Pericles, a Leonidas.
Where sprung the arts of war and peace."
Y mae'r desgrifiad yna yn gywir. Rhestrir rhyfeloedd Groeg yn mysg y pymtheg brwydrau mawrion fu yn foddion i newid gwyneb teyrnasoedd. Yno yr ymladdwyd brwydr ofnadwy Marathon a Thermopolo. Pob parch i'r chwe' chant dewrion yn Balaclava,—" Honour the charge they made!
"Into the valley of death
Rode the six hundred."
Ond nid oedd y charge yn fwy gogoneddus na gwrthsafiad arwrol tri chant o Roegwyr, dan lywyddiaeth Leonidas, yn nyffryn cul Thermopolo, pan yn ceisio atal ymgyrch byddin anferth y Persiaid. Er fod yr ymladdfa yn un mor anghyfartal, a phob gobaith am ennill y