Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dydd allan o'r cwestiwn, eto safodd pob un yn ei le fel derwen, ymladdasant hyd yr anadl olaf, a gorfu i'r Persiaid wneyd eu ffordd i Groeg ar draws cyrff y dewrion hyn. Y mae beddargraff felly yn Ffrainc, uwch ben bedd milwr, —"Siste Viator, heroem calcas!"—(Yn araf, ymdeithydd! Yr wyt yn sangu ar wron). Gwroniaid fel yna oedd Leonidas a'i fyddin ddewr. Ym mhen llawer canrif ar ol hyn, safai Byron ar y llecyn, ac wrth fyfyrio ar yr orchest a wnaed yno, llanwyd ei ysbryd nes peri iddo floeddio allan,

"Of the three hundred, grant but three,
To make a new Thermopolœ."

Fe gynyrchodd Groeg ryfelwyr, ond y mae yn enwog, hefyd, am ddosbarth arall o ddynion mawr, sef y dosbarth hwnnw sydd yn caru heddwch, yn cysegru eu dyddiau i efrydiaeth a myfyrdod.

Dyna Socrates, y penaf o athronwyr Groeg. Ganwyd ef yn Athen tua'r flwyddyn 470 c.c. Hanai o deulu cyffredin, ond yn ngrym ei ddoniau daeth yn un o ddysgawdwyr ei oes, ac yn wrthrych edmygedd a pharch pob oes ddilynol. Disgyblion iddo ef oedd y rhai a wnaethant enwau iddynt eu hunain yn y cyfnod hwn, megys Plato, Xenophon, Euclid, ac Alcibiades. Fe eglurai Socrates ei olygiadau mewn ym-