ddiddan; ni ysgrifenodd linell erioed ei hun; yr ydym yn ddyledus am hyny i'w ddisgybl, Plato, yr hwn a groniclodd luaws mawr o'i ymddiddanion. Dysgai Socrates foes—wersi uchel a phur, a gellir meddwl fod ei ymarweddiad yntau yn hynod ddiwair a diargyhoedd. Credai yn modolaeth Duw anweledig, llywodraethwr pobpeth, ond ni anturiai fynegi nemawr am ei natur na'i briodoleddau. Credai hefyd yn anfarwoldeb yr enaid. Ar y pryd, addolid llu o dduwiau yn Groeg, a darfu i waith Socrates yn dysgu am Dduw arall, anweledig, ei arwain i afaelion erledigaeth dost. Dygwyd cynghaws o gabledd yn ei erbyn; profwyd ef yn euog, a dedfrydwyd ef i farw. Y ddedfryd a osodwyd arno ydoedd yfed gwenwyn. Cyfarfyddodd â'i dynged yn y modd mwyaf tawel ac urddasol.
Ganwyd Aristotle tua 384 c.c., yn nhref Stagira. Yr oedd yn ieuengach na Phlato; a bu yn ddisgybl iddo am ugain mlynedd. Yn wahanol i Plato, yr hwn a ddilynasai olygiadau ei athraw, Socrates, darfu i Aristotle ffurfio cyfundrefn o athroniaeth o'i eiddo ei hun. Bu Aristotle yn dra ffodus yn nechreu ei yrfa gyhoeddus i gael ei ddewis yn athraw i Alexander Fawr, oedd y pryd hyny yn fachgen. Bu yn ei ddysgu am wyth mlynedd, ac aeth yn ddwfn iawn i'w serchiadau. Wedi i Alexander esgyn i'r orsedd, dychwelodd Aristotle