Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Athen, a sefydlodd ysgol mewn llecyn coediog o'r enw Lyceum. Ei ddull o gyfranu addysg ydoedd drwy gerdded yn ol a blaen yn y rhodfeydd, ac am hyny gelwid ei ddisgyblion yn Peripatetics (cerddedwyr). Ysgrifenodd nifer anferth o lyfrau, amryw o ba rai sydd ar gof a chadw hyd y dydd hwn. Ysgrifenodd hanner cant o gyfrolau ar anianyddiaeth naturiol. Darfu i'w ddisgybl, Alexander Fawr, anfon allan filoedd o bobl i wahanol barthau o'r byd i gasglu specimen o greaduriaid byw, a ffrwyth yr anturiaeth ydyw y gwaith y cyfeiriwyd ato. Er heb fod yn fardd ei hun, ysgrifenodd lyfr ar "Reolau Barddoniaeth." Gallesid meddwl mai Plato fuasai yn ymgymeryd â gwaith o'r fath, oblegid y mae yn amlwg fod ei feddwl ef yn un awenyddol; y mae barddoniaeth yn disgleirio yn ei ryddiaith; ond am Aristotle, meddwl clir, ond oer, y rhesymegydd oedd yr eiddo ef, ac eto y mae yn ysgrifenu ar reolau barddoniaeth.

Ond Plato ydyw y mwyaf adnabyddus a'r helaethaf ei ddylanwad o holl athronwyr Groeg. Ganwyd ef tua'r flwyddyn 429 c.c. Nid oedd ei ddechreuad yn ddinod fel Socrates; hanai o deulu pendefigaidd. Ei enw ar y cyntaf oedd Aristocles, ond cafodd ei newid i Plato. Ystyr yr enw ydyw llydan. Mae llawer o chwedlau yn cael eu dweud am dano yn ei febyd. Dyma un,—Tra yr oedd ei rieni yn offrymu i'r duwiau