Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar fynydd Hymettus, gadawsant y plentyn i orwedd ar wely o fyrtwydd. Yn y cyfamser, disgynodd haid o wenyn ar ei wefusau, ond ni wnaethant y niwed lleiaf iddo. Amcan y chwedl, dybygid, ydyw rhag-gysgodi melusder a swyn ei hyawdledd. Gallasai Plato, ar gyfrif ei safle gymdeithasol, ddringo i swyddi uchel yn y Llywodraeth, ond dewisodd neillduaeth. Yr oedd ei wlad ar y pryd newydd gael ei llethu gan ryfeloedd y Pelopponesus, ac yn cael ei harwain gan werinwyr penboeth, y rhai a geisient yr eiddynt eu hunain yn hytrach na lles y lluaws. Parodd sefyllfa pethau i Plato gashau bywyd swyddogol, ac ymneillduodd i efrydu gwladlywiaeth. Ffrwyth y llafur meddyliol hwn ydyw y Republic,—un o'r llyfrau hyny sydd yn cynnwys egwyddorion cyfansoddiadol pob teyrnas gyfiawn a da. "Y mae y deyrnas hon," ebai ef ei hun, "wedi ei sylfaenu ar reswm, ac nid ar nwydau dynion, ond nid ydyw i'w chael yn un man ar y ddaear." Mae'n gwestiwn a ydyw delfryd y Republic wedi ei gyrraedd eto. Pan yn ddyn ieuanc, daeth i gyffyrddiad â Socrates. Y mae chwedl dlos yn cael ei dyweyd ynglŷn â hyn. Dywedir i Socrates freuddwydio breuddwyd, a gwelai alarch ieuanc yn ehedeg tuag ato oddi ar allor un o'r duwiau, ac wedi gorffwys enyd ar ei fynwes, ehedodd i fro y cymylau, ac oddi yno