Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn byw ynddynt. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu â chorff cryf, ac â meddwl diysgog; yn gallu llafurio llawer, teithio yn faith, a chyd-ddwyn â llety a bywoliaeth wael ac isel." Ond er cymaint ei ymroddiad fel efengylydd, yr hyn. a wnaeth ei enw yn adnabyddus dros yr oll of Gymru ydoedd ei lafur fel esboniwr. Ysgrifenodd ac argraffodd "sylwadau byrion ar bob pennod o'r Ysgrythyr Lân, a daeth y Bibl hwnnw i gael ei adwaen mwy fel

"BIBL PETER WILLIAMS."

Lledaenwyd yn agos i ugain mil o gopiau o hono yn ystod ei fywyd ef, a daeth yn y man yn un o'r anhebgorion ar bob aelwyd grefyddol yng Nghymru. Efe a ddefnyddid ar y ddyled- swydd deuluaidd, ac ystyrrid y "sylwadau" ar ddiwedd y bennod bron mor gysegredig a'r Bibl ei hun. Ac os cyfodai dadl ar ryw fater, gofynnid yn union, Be mae Pitar yn ei ddeud ar hyn?"

Ac wedi cael ei farn ef, ystyrrid fod y cwestiwn hwnnw wedi ei setlo yn derfynol.

Wedi hynny, cyhoeddodd argraffiad arall o'r Bibl, cyfaddas i'r llogell, gyda chyfeiriadau ymyl-ddalenol o waith John Canne. A dyna'r Mynegair Ysgrythyrol sydd yn dal yn ei fri hyd heddyw. Ond nid efe oedd y cyntaf oll i ymgymeryd â'r gorchwyl hwn. Ymddengys fod Mynegair bychan wedi ei gyhoeddi eisoes gan ryw Gymro na wyddis ei enw yn Pensylvania