Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Galileo Galilei
ar Wicipedia





GALILEO.

CHWEFROR 15, 1564.

"Come, wander with me,' she said,
Unto regions yet untrod,
And read what is still unread
In the manuscripts of God.'"

YN yr ysgrif flaenorol yr oeddym yn gwahodd y darllenydd i sylwi ar ychydig o hanes a gwaith esboniwr, gŵr a wasanaethodd ei wlad fol dehonglydd y Dwyfol Air,—

"agorwr
Geiriau glân y nefoedd."

Ac onid hynny, mewn cylch arall, ydyw neges y seryddwr? Ei orchwyl yntau, ebai Longfellow, ydyw taflu goleu ar gynnwys "llaw-ysgrifen Duw" ar femrwn Natur. Gwahanol ydyw Bibl yr esboniwr Ysgrythyrol i eiddo yr efrydydd seryddol. Ond yr un ydyw yr Awdwr, ac y mae y naill fel y llall yn dadlenu i ddynion