Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"rannau ei ffyrdd Ef." Oherwydd paham, nid ydys yn tybio fod yna unrhyw drawsgyweiriad anaturiol yn ein gwaith yn symud oddiwrth esboniwr y Bibl at esboniwr y sêr, oddiwrth Peter Williams, y Cymro ymroddedig, at Galileo, yr Eidalwr enwog. Cyflawnodd y naill a'r llall eu dyledswyddau yn ofn Duw; rhoddasant oleuni newydd ar bethau oedd o'r blaen yn dywyll a dieithr. Cafodd y ddau eu camddeall gan rywrai yn eu hoes eu hunain.

Ganwyd Galileo yn ninas Pisa, yng ngwlad yr Eidal dlos, yn mis Chwefror, ar y pymtheg- fed dydd, yn y flwyddyn 1564. Hanai o deulu nid anenwog, ac yn wahanol i lawer o blant athrylith, ni wybu efe am adfyd a chaledi yn more ei oes. Meddai gartref clyd, a chafodd fanteision addysg oreu yr adeg honno. Cafodd ei gymhwyso ar gyfer galwedigaeth y meddyg. Dyna oedd delfryd ei dad, ond arweiniwyd ef gan Ragluniaeth ar hyd ffordd arall. Dichon y buasai yn ennill safle barchus fel meddyg; ond ar hyd y "llwybr dieithr " yr oedd efe i wasanaethu gwybodaeth, ac i ennill enw ymysg y cedyrn. Gwnaeth ei ddarganfyddiad cyntaf pan yn laslanc deunaw oed. Tra yn ymdroi mewn eglwys gadeiriol, un adeg, gwelodd lamp grogedig yn ymysgwyd ol a blaen yn y gwagle. Sylwodd fod ei symudiadau yn hollol reolaidd, ac wrth fyfyrio ar y digwyddiad damweiniol