Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnnw y cafodd y syniad am "bendil cloc," a rhoddwyd y peth yn fuan wedyn mewn ymarferiad. Ar ol hynny, bu mewn dadl boeth gyda'r athronwyr ynghylch deddfau pwys a thyniad. Dadleuai efe fod sylweddau o bob maint, pan yn cael eu gollwng i lawr o unrhyw uchder yn rhwym o gyrraedd y ddaear ar yr un adeg. Rhoddwyd prawf ymarferol ar y ddamcaniaeth. Aed a dwy belen haiarn—un fawr ac un fechan—i ben tŵr byd-enwog Pisa. Gollyngwyd hwy drosodd yn gydamserol, a chyrhaeddodd y ddwy y gwaelod efo'u gilydd. Yr oedd Galileo wedi profi ei bwnc! Ond cyffrodd elyniaeth y dysgedigion lleol, a symudodd ei breswyl o Pisa i Padua, lle y gosododd sylfaeni ei enwogrwydd fel gwyddonydd.

Yno y troes ei sylw at seryddiaeth, ac yr oedd yn amddiffynydd cadarn i " gyfundrefn Copernicus," cyfundrefn sydd erbyn heddyw yn cael ei chydnabod fel gwirionedd ond yn y cyfnod hwnnw edrychid arni gyda gŵg fel damcaniaeth wyllt a chwyldroadol.

Hyd yma, yr oedd pob sylwadaeth seryddol yn cael eu gwneud, o angenrheidrwydd, drwy gyfrwng y llygad noeth. A rhyfedd gymaint of waith a wnaed yn y ffordd honno! Aed y darllennydd allan am dro ar noswaith serenog, glir, dawel, yn y mis hwn. Sylwed ar y constellations disglaerwych yn araf symud (i'n golwg ni)