Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Dewi Sant
ar Wicipedia





DEWI SANT.

MAWRTH (?)

"Glaniaw rhag llid gelynion
Wnai saint yn yr ynys hon:
I fwynhau, i fyw yn ol
Cywir foddion crefyddol.
Os oedd ofergoelion syn
Hudolus yn eu dilyn,
Eu rhinwedd oedd er hynny
Drwy fraint, fel goleudy fry:
Rhyw wawr wan, yr oreu oedd
Acw yn asur cynoesoedd:
Gwawr o ras, goreu'r oesau,
Nid oedd hi ond yn dyddhau !"

—Islwyn.


Y MAE Cymru Fu wedi bod yn dra enwog am ei Saint. Oni chladdwyd dros ugain mil o honynt yn Ynys Enlli? Ac onid yw eu henwau wedi eu cysylltu â phob eglwys a llan o fewn y Dywysogaeth? Ac iddynt hwy yr ydym yn ddyledus am ein dyddiau gwyl,—Gwyl Ifan, Gwyl Domas, Gwyl Mihangel, &c. Dyna rai o honynt; ac od yw y darllenydd yn awyddus i astudio y mater, ymofyned â chalendr yr Eglwys Sefydledig. Ond tra y mae amryw o'r gwyliau hyn, a fwriedid