Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er coffa y Saint yng Nghymru, wedi mynd yn lled ddi-son am danynt, y mae un o honynt yn dod yn fwy-fwy adnabyddus bob blwyddyn,—Dydd Gwyl Dewi.

Ar y cyntaf o fis Mawrth y mae'r Cymry diledryw ym mhob cwr o'r ddaear yn gwisgo'r geninen, neu efelychiad o honi; yn ymgyfarfod i gynnal arwestau, ac i gynyg llwnc-destynau, gan gyffesu eu hymlyniad wrth ddefion, iaith, a gwladgarwch Cymreig. Ac y mae y pethau hyn yn cael eu cysylltu â Dewi,—nawdd-sant y Dywysogaeth. Yn awr, gan fod dydd Gwyl Dewi yn meddu y fath ddylanwad arnom fel cenedl, y mae'n ddyddorol ini ymofyn,—Pwy oedd Dewi ei hun? Pa bryd yr oedd yn byw? Pa beth a wnaeth i fytholi ei enw? A sut y daeth efe yn brif sant ei genedl?

Y mae'r cwestiynau hyn, a'u cyffelyb, yn haws eu gofyn na'u hateb. Ac yn fwy felly heddyw nag erioed. Fe fu adeg pan ydoedd Bucheddau y Saint yn cael eu credu yn ddiamheuol. Ac yn ol y rhai hynny yr oedd Dewi Sant yn ŵr rhyfeddol iawn. Cysylltir llu mawr o "wyrthiau" â'i hanes. Ymysg pethau ereill, adroddir am dano yn pregethu ar "dir gwastad," mewn mangre a ddaeth i gael ei hadnabod wedyn wrth yr enw Llanddewibrefi. Ac yn gymaint a bod y cynhulliad yn rhy luosog i fedru gweled a chlywed y pregethwr, fe "gyfododd y llawr,