Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

megis mynydd uchel dan ei draed, fel y gwelodd pawb ef, ac y mae y bryn yn weledig hyd yn bresennol." Dywedir i'r rhyfeddodau hyn gymeryd lle yn rhywle tua'r bumed ganrif, yr hon a elwir gan Mr. O. M. EDWARDS yn "Gyfnod y Saint." Ond ni chafodd buchdraeth y Sant ei ysgrifenu hyd y ddeuddegfed ganrif, a hynny gan Gerallt Gymro, gŵr oedd yn berchen dychymyg tra ffrwythlawn. Dodwyd enw Dewi ar restr saint canonaidd eglwys Rhufain yn 1120, a daeth y fynachlog lle y bu farw yn gyrchfa pererinion o bob parth o Gymru, ac o wledydd tramor. Bu brenhinoedd fel Gwilym y Gorchfygwr, Harri yr Ail, Edward y Cyntaf, yn penlinio yn ymyl creirfa Dewi Sant yn Mynwy. Ond erbyn heddyw, y mae yr uwchfeirniadaeth hanesyddol wedi bod ar waith yn y cyfeiriad hwn. Chwalwyd y tyrau llwch; ysgubwyd gwe y pryf copyn oddiar draddodiadau y canrifoedd, ac y mae adail Gerallt Gymro wedi syrthio i'r llawr! Nid y "gwyrthiau honedig yn unig sydd wedi mynd i ffordd yr holl ddaear, ond y mae personoliaeth y sant ei hunan wedi mynd yn rhywbeth anelwig a disylwedd. A fu y fath un a Dewi Sant yn bodoli o gwbl? A ydoedd yn gymeriad hanesyddol? Ai myth ydyw,—darn o chwedloniaeth dlos y cynoesoedd? Gellid meddwl mai dyna yr olwg a gymer yr "uwchfeirniaid" llenyddol