wlad. Beth fuasai ei hanes ef, a hanes ein teyrnas, pe rhoddasai ei fwriad mewn grym? Ond cyffrodd ysbryd y wlad, a dechreuwyd arwyddo y Gwrthdystiad Mawr gan filoedd. Ni fynai y Brenhin wrando. Diddymodd y Senedd, a dechreuodd y Rhyfel Cartrefol. Dyna fu'n achlysur i alw Cromwell o'i neilltuaeth yn St. Ives. Yr oedd yn llawn deugain mlwydd oed cyn gwisgo'r cledd yn erbyn y Brenhin, ac o blaid y Wladwriaeth. Nid ydoedd wedi cael ymarferiad milwrol, a chasbeth oedd ganddo adael ei deulu, a'i hwsmonaeth wledig. Ond anghenrhaid a osodwyd arno i ymaflyd yn y gwaith oedd ar ei gyfer. Nid oedd ond efe a fedrai ei gyflawni. "Dau beth," meddai S. R. Gardiner, yr hanesydd manylgraff, a'r awdurdod uwchaf, o bosibl, ar y cyfnod hwn,-" dau beth oedd yn nodweddu Cromwell,-nerth ewyllys a phenderfyniad ar un llaw, ac arafwch eithriadol ar y llaw arall." Yn araf iawn y gwnai ei feddwl i fyny. Nid dyn penboeth, gwaedwyllt, chwyldroadol mohono. Bu yn hir cyn cymeryd ochr yn erbyn y Brenhin. Ond wedi ei ar- gyhoeddi fod achos crefydd, rhyddid, ac iawn- der yn y glorian, taflodd ei hun gorff ac enaid i'r ymgyrch, ac nid oedd dim a safai o'i flaen. Daeth i'r maes heb unrhyw allu daearol o'i du. Credai yn ei "achos," a chasglodd fyddin o wŷr oeddynt yn credu fel yntau,—dynion dibrofiad
Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/32
Gwedd