Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn ystyr filwrol, ond yn meddu ffydd yn Nuw, a glewder dihafal i gyflawni eu dyledswydd. Dyna'r Ochrau Dur,—yr Ironsides. Aethant allan gan orchfygu, ac i orchfygu. Ymladdwyd brwydr Marston Moor, a Naseby, a chyn pen ychydig fisoedd yr oedd enw Cromwell yn ddychryn ac yn arswyd drwy yr holl deyrnas. Ffodd Charles i'r Alban, a gwerthodd yr Ysgotiaid ef i'r Saeson. Ceisiodd Cromwell ei ddarbwyllo o'i ynfydrwydd, ond nid oedd dim yn tycio. Dodwyd y Brenhin dan brawf, a chafodd ei gondemnio i farw. Dienyddiwyd ef yn Ionawr, 1649, a daeth Cromwell yn arweinydd y Weriniaeth newydd. Ond blin a fu ei yrfa. Yr oedd nerthoedd cryfion yn ei erbyn. Yr oedd iddo elynion ffyrnig yn y Senedd,—y "Senedd Hir," fel y gelwir hi. Ond aeth Cromwell i'r Tŷ un dydd; rhoddes orchymyn i symud y mace oddiar y bwrdd; troes yr aelodau allan bob un, clodd y drws, a rhoddodd yr agoriad yn ei logell.

Troes yr Ysgotiaid yn ei erbyn, a daeth byddin gref dros y ffindir. Cyfarfu y cadau yn Dunbar, ac enillodd Cromwell frwydr fwyaf ei oes. Ond yr oedd cynyrfiadau yn parhau i gymeryd lle, weithiau yn Nghymru, a phryd arall yn Iwerddon; ac er rhoddi y tân allan, ar y pryd, yr ydoedd yn para i losgi, ac i ail enyn yn rhywle yn barhaus. Methodd Cromwell a