Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sicrhau y Weriniaeth a sefydlwyd ganddo. Meddai allu i dynu i lawr, i ddiorseddu gormes a thrais, ond ni feddai ddawn i adeiladu. Nis gellid llywodraethu gwlad drwy nerth milwrol. Fel y dywedai Napoleon,—"You can do anything with bayonets except sit on them." Gwnaeth Cromwell waith ardderchog yn ngrym ei fidogau, ond methodd a sylfaenu gorsedd arnynt, iddo ei hun, nac i neb arall.

Codwyd ef gan Ragluniaeth ar gyfer amseroedd enbyd. Ymddiriedwyd iddo am waith anhawdd. Cyflawnodd ei genadwri yn onest, yn wynebagored, ac yn llwyr. Nid oedd uchelgais yn ei holl feddyliau. Nid diafl ar ffurf dyn ydoedd, fel yr honai ei elynion am lawer cenhedlaeth. Dengys ei hanes gan Carlyle, hanes wedi ei sylfaenu ar ei lythyrau, ei areithiau, a'i weithredoedd, fod Cromwell yn un o ddynion mawr Prydain, yn arwr rhyddid ac iawnder, ac yn gymeriad pur ac ardderchog. Gellir beirniadu ei gynlluniau a'i ffurf-lywodraeth, ond disglaeria ei gymeriad fwy-fwy fel y mae y canrifoedd yn treiglo ymlaen.

Yr oedd John Miltwn yn edmygydd dwfn ohono yn ei oes, ac y mae gwŷr o safle Arglwydd Rosebery a John Morley, yn y dyddiau hyn yn cysegru eu hamser a'u galluoedd i ddadorchuddio bywyd a gwaith Oliver Cromwell.