Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymaint am un neu fwy o'r enwogion uchod, oherwydd y mae amryw ohonynt wedi bod gymdeithion gwerthfawr am flynyddau. Ond y mae blodau Mai wedi ein hud-ddenu i lwybr gwahanol. Yr ydym yn adgofio mai yn ystod y mis hwn, yn y flwyddyn 1819, y ganwyd y Dywysoges fach a ddaeth wedi hynny i ddal teyrnwialen Prydain am flwyddi maith,—ein diweddar rasusaf Frenhines Victoria. Ond yn gymaint a bod amryw wedi cymeryd mewn llaw i ysgrifennu am ei bywyd a'i theyrnasiad hi, yr ydym yn ymatal rhag sangu ar faes ein cymydog.

Ond nid llai clodfawr yn ei ffordd oedd, ac ydyw y foneddiges ag y mae ei henw uwchben ein hysgrif,—Florence Nightingale. Ganwyd hi yn 1820, a hynny yn ninas enwog Florence, er mai Saesones ydoedd o ran cenedl a gwaed. Yr oedd ei thad yn foneddwr, ac yn berchen palas o'r enw Lea Hurst, yn Swydd Derby. Yno y treuliodd Florence ddyddiau dedwydd maboed. Amgylchynid hi gan gysuron a llawnder. Ond yn yr adeg honno dadblygodd yr elfennau a ddaethant wedi hynny mor amlwg, mor werthfawr yn ei bywyd. Meddai gydymdeimlad â phopeth oedd yn dioddef, ac yr oedd ei thiriondeb at greaduriaid mud yn ddiarhebol. Adroddir am dani yn adfer bugeilgi oedd wedi ei anafu yn dost, ac yn gwneyd llawer cymwynas oedd yn datguddio "tannau euraidd tynerwch"