Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei chalon. Cafodd addysg dda, a hawdd y gallasai dreulio ei hoes fel boneddiges uchel-waed, mewn ysblander a hunanfoddhad. Ond yr oedd y drychfeddwl o gynorthwyo yr adfydus, ac o weini ar gleifion ac anafusion wedi cymeryd meddiant o'i hysbryd. Awyddai am waith.

"Get leave to work
In this world: 'tis the best you get at all."

Ond beth a fedrai hi wneyd? Ei phrif ddymuniad oedd bod yn weinyddes (nurse) i'r cleifion. Ond yr adeg honno nid oedd y gelf gain yna wedi ei darganfod yn y deyrnas. Yr oedd y gwaith ei hun yn cael edrych i lawr arno fel rhywbeth anheilwng o'r rhyw fenywaidd. Codwyd Florence Nightingale gan Ragluniaeth i weddnewid hyn oll; a hynny, yn benaf, drwy ei hesiampl odidog ei hun. Yr oedd wedi cymhwyso ei hunan at y gorchwyl, ac wedi treulio rhan o'i hamser mewn sefydliadau meddygol ar y cyfandir. Ac yn y man, daeth yr amser i ddangos ac i ogoneddu drychfeddwl llywodraethol ei bywyd.

Yn 1854, yr oedd newyddiaduron y deyrnas hon yn llawn o hanes echrys y Crimea. Yr oedd ein milwyr dewr yn dioddef, yn marw wrth y cannoedd o ddiffyg ymgeledd. Yr oedd yr hen ysbyty hagr yn Scutari, ar lan y Môr Du,