Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn llawn o glwyfedigion, ond nid oedd yno neb i ofalu yn briodol am danynt. Aeth y lle yn gynweirfa y pla a'r haint, ac yr oedd rhestr y marwolaethau beunyddiol yn yr ysbyty yn 60 y cant!

Yn yr argyfwng hwn y cynygiodd Florence Nightingale ei gwasanaeth i'r Llywodraeth fel hospital nurse i'r milwyr. Derbyniwyd ei chynygiad gyda llawenydd a diolchgarwch. Hwyliodd allan, gyda nifer o foneddigesau ereill o gyffelyb feddwl. Gwynebodd yr holl anhawsderau, yr hinsawdd, y clefydon, a'r caledwaith gydag ysbryd gwronaidd. Nid oedd ond merch ieuanc dyner a diamddiffyn, ond yr oedd ei holl symudiadau yn hawlio parch ac edmygedd. Ymosododd ar yr aflendid a'r anhrefn yn yr Ysbyty fythgofiadwy honno. Ymlidiodd y trueni ymaith, a dygodd oleuni cysur a gobaith i'r dioddefwyr. Ar rai adegau yr oedd ganddi filoedd o dan ei gofal, ond ni phallodd ei hymdrech. Yr oedd pob milwr yn gwybod fod un a feddai dynerwch mam, a medr y meddyg goreu, yn gofalu am dano. Aberthodd ei hun ar allor dyngarwch. Daeth yn angyles trugaredd i'r sawl oedd ar ddarfod am danynt. Nid oes neb wedi darlunio ei gwaith yn fwy tyner a desgrifiadol na Longfellow, y bardd Americanaidd, mewn canig fechan, anfarwol—.