Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Wesley
ar Wicipedia





JOHN WESLEY.

MEHEFIN 28, 1703

AC yr oedd gŵr wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a'i enw Ioan." Gellid dweud hynny am lawer Ioan yn ystod y canrifoedd Cristionogol, ac y mae y gair yn hollol addas i'w gymhwyso at hanes a llafur John Wesley, sylfaenydd un o'r cyfundebau crefyddol mwyaf grymus yn y deyrnas hon, ac ar gyfandir yr Amerig.

Ganwyd ef yn mhersondŷ Epworth, Swydd Lincoln, ar yr 28ain o Fehefin, 1703. Clerigwr oedd ei dad, Samuel Wesley, a chlerigwyr oedd ei hynafiaid. Yr oedd John yn un o bedwar ar bymtheg o blant, ond nid yw y byd yn gwybod heddyw namyn am ddau o'r teulu lluosog hwn,