—John a Charles. Erys eu henwau hwy tra y bydd Methodistiaeth Wesleyaidd yn un o forces y byd Cristionogol. Y mae emynau'r naill, ac ysbryd diwygiadol y llall, wedi hydreiddio i awyrgylch grefyddol ein teyrnas. Yr oeddynt fel Paul ac Apolos, y naill yn plannu, a'r llall yn dyfrhau, a Duw yn rhoddi y cynydd.
John oedd yr hynaf o'r ddau. Cafodd ei fagu o dan ddylanwadau tyner a phur. Yr oedd ei fam yn un o ragorolion y ddaear. Addefa pob hanesydd fod Susannah Wesley yn gymeriad nodedig. Yr oedd ei gofalon yn lluosog, ond drwy ei threfnusrwydd, ei meddylgarwch, a'i serchawgrwydd, llywodraethai dylwyth ei thŷ gyda doethineb a phurdeb. Yr ydoedd yn fren- hines ar yr aelwyd, a'i deddfau yn seiliedig ar gariad a thynerwch. Etifeddodd John Wesley alluoedd meddyliol ei fam; yr oedd trefn a chynllun wedi eu cydwau â'i natur, ac yn ngrym y ddawn yna y llwyddodd i osod ei waith ar linellau sicr a pharhaol. Dyna sylfaen "Trefn- yddiaeth yr enwad sydd yn bytholi ei enw.
Pan ydoedd yn blentyn, digwyddodd i berson- dŷ Epworth fynd ar dân. Mawr oedd y cyffro, oherwydd yr oedd y teulu yn gorffwys ar y pryd. Llusgwyd y plant allan ganol nos, ond wedi eu cyfrif, canfu y tad pryderus fod un ar ol! Yr un hwnnw oedd John. Yn y man, gwelid ef yn sefyll yn ffenestr y llofft. a'r