Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fflamau yn prysur nesau ato. Ond dyna ddau gymydog yn anturio at y mur, ac yn llwyddo i'w waredu o'i berygl. Cyn pen ychydig funudau buasai wedi mynd yn aberth i angerdd y tân. Yr oedd y ddihangfa yn ernes o lawer dihangfa arall a gafodd yn ystod ei oes faith. Nid rhyfedd ei fod yn hoff o'r adnod honno,-"Onid pentewyn ydyw hwn wedi ei gipio o'r tân?" Meddyliai ei fam fod y waredigaeth yn amnaid o rywbeth mwy,-fod gan Dduw waith arbenig iddo i'w gyflawni drosto Ef. Ac onid oedd ei dyfaliad yn llawn o ystyr? Derbyniodd ei addysg yn y Charterhouse, ac wedi hynny yn Rhydychen. Daeth yn ysgolor gwych, yn fedrus fel ymresymydd, ac yn gyfarwydd iawn yn llenyddiaeth glasurol yr hen oesoedd. Ac yr oedd ei fywyd personol yn bur a diwair. Ymgadwai rhag rhysedd ac anfoes, a chymhwysodd ei hun i fod yn glerigwr yn eglwys Locgr. Etholwyd ef yn gymrawd o goleg Lincoln, a derbyniodd urddau eglwysig. Yn yr adeg hon y ffurfiwyd y gymdeithas fechan honno a ddaeth yn hedyn y diwygiad Methodistaidd. Cyfarfyddai amryw o wŷr ieuainc yn eu hystafelloedd yn Rhyd- ychen i ymddiddan am bethau crefydd. Yr oedd agwedd crefydd yn dra isel ar y pryd. Teyrnasai anffyddiaeth ac anuwioldeb yn y cylchoedd uchaf, ac nid oedd derfyn ar ysbrydiaeth wallgof a phechadurus yr oes. Cafodd y