Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

esgidiau ei gymdogion, yr oedd yn darllen, ac yn myfyrio, yn trwsio ei feddwl ei hun â'i holl egni. A mawr oedd ei awydd i oleuo ac i ddysgu ereill. Gwahoddai y plant a'r ieuenctyd ato i'r gweithdy, a rhoddai iddynt wersi addysg, tra yn dilyn ei orchwyl. Un o bynciau yr addysg oedd daearyddiaeth,—hanes gwledydd a chenhedloedd. Ac un o'r pethau penaf oedd yn gofidio ei ysbryd ydoedd y syniad fod rhanau mor fawrion o'r byd yn gorwedd mewn anwybodaeth, y bobl yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angeu, heb glywed gair erioed am y "tosturi Dwyfol fawr, at lwch y llawr sy'n bod."

Dechreuodd bregethu, ond yr oedd sefyllfa y paganiaid yn pwyso ar ei feddwl ddydd a nos. Ceisiai berswadio ei gyd—grefyddwyr, a'i frodyr yn y weinidogaeth, i wneyd rhywbeth i anfon yr Efengyl i dywyll-leoedd y ddaear. Ond nid oedd nemawr un yn cydymdeimlo â'i feddyliau. nac yn deall ei genadwri. Yr oedd y fath syniad yn ymylu ar wallgofrwydd! Nid oedd yr ysbryd cenhadol wedi ei ddeffro yn y wlad; ac yr oedd Carey yn cael ei gyfrif yn benboethyn gan ei gydnabod. Ond yr oedd y tân wedi cyneu ar allor ei galon ef, ac nis gallai dewi. Yn mhen amser, ac oherwydd ei daerni, rhoed caniatad iddo bregethu ar y pwnc mewn cwrdd arbenig yn Northampton. Yr oedd hyny yn 1792. Ei destyn ydoedd Esaiah liv. 23, ac y mae penau ei