bregeth wedi dod yn arwyddeiriau cenhadol dros byth,—
DISGWYLIWN BETHAU MAWR ODDIWRTH DDUW.
CEISIWN GYFLAWNI PETHAU MAWR DROS DDUW.
Cafodd oedfa nerthol; a pha ryfedd? Dyn ar dân yn dweyd ei neges ydoedd. Dyna'r gwasanaeth drosodd, a'r brodyr yn ymwasgaru heb wneyd dim. Llifai y dagrau mawr dros ruddiau y pregethwr; ymaflodd yn mraich Andrew Fuller, a gofynodd,—" A ydych am ymado heb geisio gwneyd rhywbeth i anfon yr Efengyl i baganiaid y byd?" Galwyd y brodyr yn ol, a threfnwyd cyfarfod arall yn mhen tri mis ar yr un pwnc. A chyfarfod cofiadwy oedd hwnnw; un o'r rhai mwyaf nodedig o ran ei ganlyniadau. Cynulliad bychan ydoedd o ran rhif, yn cael ei gynnal yn nhŷ gwraig weddw yn Kettering. Ond y mae ei goffadwriaeth i barhau drwy y canrifoedd. Pam? Am y rheswm mai yn y lle hwnnw y rhoddwyd bôd i'r gymdeithas genhadol gyntaf yn Mhrydain. Dyna ffynhonell y mudiadau mawrion sydd erbyn heddyw yn ymestyn dros bum cyfandir. Yno yr hauwyd yr hâd; yno y planwyd yr eginyn oedd i dyfu yn bren mawr, dail yr hwn oedd i iachau y cenhedloedd. Cafodd Andrew Fuller ei ethol yn ysgrifenydd, ac yr oedd swm y casgliad,—blaen-