Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffrwyth yr holl gasgliadau cenhadol,—yn £13 2s. 6c. Ond pa le y ceid y cenhadwr? Pwy a ä drosom? Ac i ble? Cynygiodd Carey ei hun i'r gwaith. "Af fi i lawr i'r pwll," meddai, "ond rhaid i chwithau ddal y rhaff." Ac addawsant wneyd hyny; yn eu gweddiau, yn eu cynorthwy, yr oeddynt yn addunedu y byddai iddynt hwy, cynrychiolwyr eglwysi Prydain,—"ddal y rhaff." Y maes a ddewiswyd oedd India'r Dwyrain, gwlad oedd wedi ei meddianu, mewn rhan, gan Brydain, gwlad oludog a ffrwythlawn, yr East Indies. A dyna broffwydoliaeth Pantycelyn yn dechreu ymagor! Gwrthodwyd caniatad i Carey i fynd yno mewn llong Brydeinig. Nid oedd yr awdurdodau yn ffafriol i genhadwr roddi ei droed i lawr yno, ac yr oedd y syniad yn cael ei wawdio gan ysgrifenwyr y dydd. Ond cododd ymwared o le arall. Cafwyd llong dan faner Denmarc yn barod i gludo y cenhadwr i lanau y Ganges. Y mae'r gymwynas yn werth ei chofio. Ymsefydlodd Carey yn Serampore, ychydig o'r tu allan i Calcutta. Ymroes i ddysgu iaith y wlad, a dangosodd fedr arbenig at y gorchwyl. Yn mhen peth amser, dechreuodd gyfieithu yr Ysgrythyr Lân i'r Bengalaeg. Efe oedd y cyntaf i drosglwyddo Gair Duw i ieithoedd India. Daeth dau genhadwr arall i'w gynorthwyo yn ei lafur,—Marshman a Ward, a bu y riawd yn