Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cydlafurio am flynyddau maith. Nid oedd Cymdeithas y Beiblau wedi ei geni pan oedd Carey yn darparu Bibl i breswylwyr Bengal. Yr oedd yn rhaid i'r cenhadon wneyd y papyr, darparu y llythyrenau, ac argraffu y gwaith eu hunain. Yn y flwyddyn 1800, yr oedd llenni cyntaf Efengyl Matthew yn barod. Dodwyd y copi yn wlyb o'r wasg ar yr allor yn y capel cenhadol, a gofynwyd am ei fendith Ef ar yr antur fawr. Wedi cael y Dwyfol Air yn iaith y bobl, ymroes y cenhadon i bregethu â'u holl egni, ac yr oedd bendith Duw yn amlwg ar eu llafur. Yr oedd y dychweledigion yn lluosogi, a gair yr Arglwydd yn rhedeg, ac yn cael gogonedd. Cwrddasant â gwrthwynebiadau lawer, ac â cholledion mawrion oddiwrth lifogydd, daeargrynfaoedd, &c. Un adeg, aeth y weithfa lle y cedwid yr argraffwasg, a'r holl bapyrau, ar dân. Ond yr oedd ysbryd Carey yn anhyblyg, a'i ffydd yn anorchfygol. Ni fu erioed weithiwr mwy difefl. Yr oedd yn cyfieithu, pregethu, addysgu yn ngholeg Calcutta; yn gohebu, ac yn trin ei ardd enwog,—y Botanic Garden,—yn ddyddiol, drwy gydol y blynyddau. Son am ei ardd. Daeth yn awdurdod ar lysieueg India, a llwyddodd i drawsblanu llawer o gynyrchion y wlad hon ar lanau y Ganges. Un ohonynt, ac un o'r rhai hoffaf ganddo, ydoedd blodyn llygaid y dydd,—y daisy. Yr oedd edrych arno mewn