Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwlad bell yn ei adgofio am feusydd ei febyd. Ond beth bynnag oedd ei hoffder o flodau natur, gwaith mawr ei fywyd yn India oedd dweyd am Rosyn Saron" a "lili y dyffrynoedd."—

"Blodau hyfryd
Sy'n disglaerio dae'r a nef."

Llafuriodd yn India'r Dwyrain am dros ddeugain mlynedd, a hynny heb ddychwelyd unwaith i'r wlad hon. Cafodd fyw i weled y Bibl wedi ei gyfieithu i lu mawr o ieithoedd brodorol India; gwelodd greulonderau y Juggernaut yn diflannu; canfu ernes o'r adeg pan y bydd baner y Groes yn chwifio yn fuddugoliaethus

"O aelgerth Cashgwr hyd i garth Travancore."

Fel yna, cafodd y bachgen tlawd a aned yn mhentref Panlerspery, ac a dreuliodd ei faboed mewn dinodedd yn ngweithdy'r crydd, ei wneyd yn llestr etholedig i gludo Efengyl y tangnefedd i eithafoedd y byd. Daeth yn apostol India'r Gorllewin, ac yn un o ragredegwyr yr ardderchog lu o genhadon oeddynt i ymaflyd yn yr un gwaith, ac i anturio " pethau mawr dros Dduw."

Machludodd haul ei fywyd yn dawel a gogoneddus. Deuai ei gyfeillion i edrych am dano, gan ei gyfarch fel Dr. Carey. Peidiwch a son