Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MATHEW HENRY.

HYDREF 18, 1662.

YN nyddiau Siarl y Cyntaf yr oedd perllan odidog yn perthyn i balas brenhinol Whitehall, Llundain. Ceidwad y berllan oedd John Henry, ac efe oedd Gymro. I'r John Henry hwnnw yr ydoedd mab,—unig fab,yn dwyn yr enw Philip. Treuliodd y bachgen ei faboed yn ngerddi y Whitehall, yn cydchwareu â bachgen arall oedd i gael ei adwaen mewn hanes fel Siarl yr Ail. Gwelodd lawer o bethau yn ystod ei arhosiad yn amgylchoedd y palas. Bu yn gwneyd negesau i'r Archesgob Laud. Cafodd ei addysgu gan Dr. Owen a Goodwin. Bu yn llygad-dyst o'r olygfa brudd yn Whitehall pan ddienyddiwyd Siarl y Cyntaf. Bwriodd ei goelbren gyda'r Piwritan-