chanfu "obeithion Cymru Fydd." Cana am "Yr Ysgol Sul a'r Beibl," am " Lili wen y dŵr," "Dynerwch at y gwan a'r ieuanc,"
"Bydd dyner wrth y plentyn bach
Fel ton ar dyner dant,
'Does dim ond cariad Iesu Grist
Yn fwy na chariad plant."
Ni chafodd Ceiriog ddychwel i fro ei febyd. Aeth o Fanceinion i Lanidloes, ac oddiyno i Gaersŵs fel arolygydd y Van Railway. Ac yno, yn Ebrill, 1887,—naw mlynedd ar ol Islwyn, y bu efe farw, yn 55 mlwydd oed. Ond yn ei farddoniaeth, yn ei ganeuon, y mae yn fyw, a'i enw'n ymledu i lenyddiaeth y byd. Darllenir, adroddir ei" Fyfanwy " a'i "Alun Mabon " gan oes newydd. Y mae cyfaredd yn gorffwys ar ei ganeuon. Dichon iddo ganu rhai pethau salw, israddol, ond aiff y rhai hyny o'r golwg. Ond am Ceiriog, yn ei fanau goreu, Ceiriog dan eneiniad yr awen, nid oes marw na bedd yn ei hanes. Gellir dweud am dano, fel yr ehedydd ar riniog y nef,
"Canu mae, a'r byd a glyw
Ei alaw lon o uchel le;
Cyfyd hiraeth dynol ryw
Ar ei ol i froydd ne,
Yn nes at ddydd, yn nes at Dduw,
I fyny fel efe!