Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Beth yn fwy perffaith o ran syniadaeth a mynegiant?

Dwy ffrwd yn tarddu o'r un ffynon ydyw tynerwch ac arabedd." Yr oedd y naill a'r llall yn rhedeg yn glir drwy ganeuon Ceiriog. Y mae y wên a'r deigryn yn pelydru drwyddynt. Canodd lawer o bethau ysmala, digrifol; ond odid fawr na cheir rhyw gyffyrddiad tyner yn cloi y gân. A phan yn canu ar destynau hiraethus, pruddaidd, y mae y wên yn goleuo'r tywyllwch, ac yn balmeiddio'r gofid,

"Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Ymddiried i'r nefoedd mae'r weddw a'i phlant;
Ni fedd yr holl gread un plentyn a wâd
Fod byd anweledig os collodd ei dad."

Nis gallwn aros gyda'i riangerddi poblogaidd, ei eiriau gwladgarol ar hen alawon Cymru. Dichon mai yn y rhain y bydd efe byw. Dyma drwydded ei anfarwoldeb. Cododd yr hen alawon cain o ddinodedd; treiddiodd i'w gwir ysbryd, a chorfforodd draddodiadau a dyhead ei genedl yn y miwsig pêr oedd wedi bod yn disgwyl cyhyd am ryw fardd i'w cyflwyno i sylw y wlad. Dyna a wnaeth Ceiriog, a bu ei ymdrech yn llwyddianus. Deffrodd wladgarwch yn ysbryd ei genedl. Canodd am hanes gwych ei gorffenol; canodd ddelfrydau ei dyfodol. Safodd yn "ffenestr ddeheuol" y gweledydd, a