am na phlygent i ewyllys y Brenin. Ac un o'r ddwy fil oedd Philip Henry. Da iddo erbyn hyny fod y Broad Oak yn gysgod iddo. Gwaherddid iddo bregethu; cafodd ei amddifadu o'i fywoliaeth, ond cysegrodd ei neillduaeth i ddibenion ardderchog. Cafodd Mathew ieuanc yr addysg oreu, a'r meithriniad mwyaf gofalus, ar aelwyd ei rieni. Ac yr oedd gogwydd ei feddwl yntau yn bob mantais i'r addysg. Cafodd ei wreiddio mewn gwybodaeth a deall, a derbyniodd ddeuparth o ysbryd ei dad yn ei hoffder at yr Ysgrythyrau.
Gyda threigliad y blynyddau, ciliodd cysgodion gormes, ac estynwyd terfynau rhyddid. Dechreuodd Mathew Henry bregethu yn 1685, ac ymsefydlodd fel gweinidog yr Efengyl yn Nghaerlleon. Parhaodd y cysylltiad am chwarter canrif. Yr oedd cylch ei ofal yn fawr, yn cynnwys tua deg ar hugain o eglwysi. Yr oedd yn bregethwr teithiol yn ystyr oreu y gair. Ond yn ystod ei oes weinidogaethol, pregethodd unwaith bob mis, yn ddifwlch, yn ei eglwys ei hun yn Nghaerlleon. Ei arfer yno oedd pregethu y Bibl o'i gwr, rhan o'r Hen Destament yn y boreu a chyfran o'r Testament Newydd yn yr hwyr. Ac yr oedd ei holl bregethau yn cyfranogi o'r elfen esboniadol,—nid esboniad sych, cywrain, ond yr esboniad hwnnw sydd yn cynhesu y galon tra yn goleuo y deall, "gan gydfarnu