Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pethau ysbrydol â phethau ysbrydol." Heblaw hyny, yr oedd ganddo ei weekly lecture,—darlith ar noson waith ar fater Biblaidd. Testyn y gyfres hon ydoedd, "Cwestiynau y Bibl," a pharhaodd am ugain mlynedd! Dechreuodd yn Hydref, 1692, gyda'r cwestiwn—"Adda, pa le yr wyt ti?" ac aeth rhagddo yn gyson a diorffwys hyd y cwestiwn olaf yn llyfr y Datguddiad. Pa lwydd fuasai ar gynllun fel yna yn y dyddiau hyn? Ond dyna ddull Mathew Henry o wneyd ei waith,—pregethu, darlithio, cateceisio yn ddibaid; a'r cyfan yn canolbwyntio yn y Bibl. Nid oes angen dweud ei fod yn efrydydd caled a dyfal. Codai am bump yn y boreu, a daliai ati hyd y prydnawn, ac eto nid. meudwy mohono. Yr oedd yn oludog mewn cyfeillion, ac yn un o'r dynion mwyaf cymdeithasgar yn ei oes.

Ond ei waith mawr,—y gwaith sydd yn cadw ei enw yn wyrdd yn mysg ei gydwladwyr,—oedd ei Esboniad adnabyddus ar y Bibl. Pa ddarllenydd Biblaidd na ŵyr am Esboniad Mathew Henry? Yr oedd y gwaith wedi tyfu o'i feddwl, o'i lafur gweinidogaethol, ond yr oedd y dasg yn un anhawdd a maith; yn enwedig pan gofir gynifer o ddyledswyddau ereill oedd yn galw am ei amser a'i nerth. Dechreuodd ar y gorchwyl yn mis Tachwedd, 1704, a daliodd ati yn ddifefl. Yr oedd y gwaith wedi ei lwyr fedd-