Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae. Dechreuodd gyda'r sofa, ond blinodd yn fuan; cymerodd ei hynt i'r awyr agored. Darluniai fywyd y wlad, yn yr haf a'r gaeaf.. Dug ni i lan yr afon, ac i'r goedwig, a gesyd. swyn a harddwch ar olygfeydd gwledig a chyffredin. Darlunia'r coediwr yn mynd at ei waith ar fore yn y gaeaf, ei fwyell ar ei ysgwydd, a'i gi wrth ei ledol, tra y disglacria yr eira canaid ar gangenau'r coed. Yr ydys yn ei weld, ac yn teimlo yr awel oer, adfywiol, yn chwythu ar ein grudd. Desgrifia y llythyrgludydd yn dod i'r pentref ar ddiwrnod gaeafol, fel y gwnai yn y dyddiau gynt. Dacw fe yn croesi y bont, a'r bobl yn y drysau yn disgwyl am dano,

"Mae'n dod hysbysydd yr aflonydd fyd,
A throediad trwm, côb laes, rhewedig farf;
Helyntoedd byd yn hongian draws ei gefn.
Mae'n ffyddlon idd ei siars,—y llwythog gôd,
Er hyn, i'w chynwys difraw yw, ei nôd
Yw'r gwesty hen, lle rhydd ei faich i lawr.
Chwibianu wna, druanddyn ysgafn fron,
Mae'n siriol, er yn oer; cenhadwr ing
I luoedd yw, llawenydd ddug i rai;
Ond poen neu londer, dibwys ganddo ef.
Aneddau'n llosg, gostyngiad llôg y banc,
Y geni a'r marw-restr, nodau'n wlyb
Gan ddagrau, wlychent ruddiau trist,
Mor aml a'r geiriau dwysion ynddynt sydd,—
Dwys-ocheneidiau serch cariad-lanc pell,
Neu ateb gŵyl y ferch.—un effaith gâ
Y cwbl arno, dideimlad yw i'r oll!"