Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Onid yw y darlun yn fyw? Ac y mae yn y gerdd lu o ddarluniau cyffelyb, mor ffyddlon a natur, mor wir a hanes, ac wedi eu cyfleu yn y modd mwyaf gofalus, y lliwiau wedi eu cymysgu, a'u cyd-dymheru yn gynil ac yn fresh, heb ddim gwrthuni na rhodres. Y mae y Task yn un o'r darnau hawddgaraf mewn barddoniaeth Seisnig. Drwy y gwaith hwn, enillodd Cowper ei wir safle fel bardd,—bardd yr aelwyd, apostol cartref, a dehonglydd bywyd gwledig; y bywyd pur, caredig, sydd yn cadw ffynhonellau cymdeithas yn loew ac yn lân. Y mae'r gwaith drwyddo yn gwirio ei linell ef ei hun,

"God made the country, man made the town."

Ei orchwyl nesaf oedd cyfieithu Homer, gwaith caled a dwys, a derbyniodd fil o bunnau am dano gan y cyhoeddwr. Ni oddef ein terfynau i ni fanylu ar ei fân ganiadau difyrus ac adloniadol. Pwy nas gŵyr am " John Gilpin,"—un o'r cerddi doniolaf a wnaed erioed, ac y mae'n rhyfedd meddwl mai Cowper brudd-glwyfus oedd ei hawdwr.

Ond daeth yr Hydref wedyn dros ei feddwl. Dychwelodd y cysgodau, ac yr oedd ei flwyddi olaf yn ddi-oleuni iddo ef ei hun. Fflachiai ambell i belydr drwy odreuon y cymylau. Daeth un ohonynt heibio iddo tra yn edrych ar ddarlun ei fam,—y fam a gollasai pan yn chwech