oedd ei gof yn afaelgar a diollwng. Meddyliodd ei dad y gellid "pregethwr" ohono, a chyda'r bwriad hwnnw rhoddes ei fryd ar ei addysgu, a'i gymhwyso ar gyfer y weinidogaeth. Ond nid arfaeth ei dad oedd i gael ei chyflawni ar y mater hwn. Onid dyna hanes cyffredin arfaethau dynol? Yn ol yr arfaethau bychain hyn, yr oedd Calfin i fod yn gyfreithiwr, Robertson o Brighton yn filwr, a Thomas Carlyle yn weinidog. Ond daeth Rhagluniaeth ymlaen i'w harwain ar hyd ffordd arall.
Aeth Carlyle ieuanc i brifysgol Edinburgh pan yn bedair-ar-ddeg oed. Yr oedd ganddo dros bedwar ugain milldir o ffordd, a cherddodd hi bob cam. Caled oedd ei fyd, ond yr oedd brwdfrydedd athrylith yn llosgi yn ei enaid, ac ni fynai droi yn ol. Ar faes rhifyddiaeth y rhagorai ym more ei oes; ac wedi gado y brifysgol, ymsefydlodd mewn rhanbarth wledig fel ysgolfeistr. Nis gellir honni iddo lawer o lwydd yn y cymeriad hwn, ond enillodd dipyn o geiniog i ddod yn ol i Edinburgh, lle y dechreuodd lenydda, yr hyn oedd i fod yn brif orchwyl ei oes. Ysgrifenai i'r cylchgronau, ac efe oedd un o'r rhai cyntaf i ddehongli Goethe, bardd mawr yr Almaen, i ddarllenwyr y wlad hon. Yn 1826, efe a ymbriododd â Jane Welsh, boneddiges lachar ei doniau, a symudodd i fyw i neillduaeth Craigenputtock, lle unig, a bron