Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anghyfanedd, heb unrhyw gymundeb o'r braidd rhyngddo â'r byd mawr, llydan. I'r fan honno y daeth Emerson, brawd-lenorydd enwog, ar ei ymdaith, a dyddorol yw ei ddesgrifiad o'r daith. Yr oedd Carlyle wedi ymgladdu yn ei lyfrau, a'i waith llenyddol, a'i briod yn gwneyd goreu medrai gyda gwaith y tŷ. Ond nid yn Craigenputtock yr oedd yn meddwl treulio ei fywyd. Yr oedd ei fryd ar brif-ddinas Llundain, lle y gallai lwyr ymroddi i waith dewisol ei fywyd. Aeth yno yn 1834, a'r copi gwreiddiol o'r llyfr dieithriol ei gynnwys a adwaenir fel Sartor Resartus yn ei logell. Cynygiodd ef i wahanol gyhoeddwyr, ond nid oeddynt yn barod i ymgymeryd â'i argraffu. Daeth allan ar y cyntaf yn benodau mewn cyhoeddiad misol, a gwrthdystiai y darllenwyr yn y modd mwyaf pendant yn erbyn y fath gymysgfa anealladwy. Ni ddarfu i Carlyle gymeryd y byd llenyddol by storm. Nis gallai efe, fel Byron, gyffesu iddo ddeffro ryw fore, a chael ei hun yn enwog. Araf a blin oedd ei ymdrech. Ond yr oedd ganddo benderfyniad adamantaidd, ac ewyllys anhyblyg. Taflodd ei hunan gorff ac enaid i waith llenyddol, a phenderfynodd o'r dechreu nad ysgrifenai un linell ond yr hyn a gredai â'i holl galon.

Traddododd nifer o ddarlithiau ar Wroniaid a Gwron-addoliaeth, a dechreuodd y rhôd droi.